Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 6
Tachwedd 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3.
(15 munud)
NDM7176 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019.
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019.
Dogfen
Ategol
Gorchymyn
Arfaethedig yn y Cyfrin Gyngor: Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru
2006 (Diwygio) 2019
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi?
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli 2763 o gleifion yn ddiweddar o'r rhestr aros ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg?
Gofyn i’r Prif Weinidog:
Leanne Wood (Rhondda): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y goblygiadau i Gymru yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru?
(5 munud)
(5 munud)
NDM7175 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) adrannau 2 i 9,
b) Atodlen 1,
c) adrannau 10 i 28,
d) Atodlen 2,
e) adran 29,
f) Atodlen 3,
g) adrannau 30 i 41,
h) adran 1,
i) Teitl hir.
(30 munud)
NDM7174 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mehefin 2019.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Awst 2019.
(60 munud)
NDM7177 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai’ a gasglodd 5,654 o lofnodion
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai
(30 munud)
NDM7178 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o Gymru.
2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer meddygon teulu eleni.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod dros 119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf 10 y cant o gyllideb gyfan y GIG.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi pryderon parhaus Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol a chyhoeddi map gwres diweddaraf practisau meddygon teulu Cymru.
Cymdeithas Feddygol Prydain - map gwres practisau meddygon teulu Cymru Ebrill 2019
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'ychwanegol' rhoi 'a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill'.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu yn y GIG yng Nghymru.
(30 munud)
NDM7179 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr 2020.
2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag.
3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau gwaith nyrsys.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC yn parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â newidiadau i rotas nyrsio.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel pwynt newydd ar ol pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd straen a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.
Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu 'dros y pedair blynedd diwethaf' a rhoi 'am dros bedair blynedd' yn ei le.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu â rhwystro'r penderfyniad hwn rhag cael ei wneud.
Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith.
Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
(30 munud)
NDM7171 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cofio a pharchu: pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Tachwedd 2019